lyric

The Simon and Garfunkel Story

Prin iawn yw'r sioeau sydd wedi profi llwyddiant byd-eang rhyfeddol The Simon & Garfunkel Story, gyda nifer o sioeau lle gwerthwyd y tocynnau i gyd mewn dros 50 o wledydd ledled y byd a dros 20 o berfformiadau yn y West End yn Llundain, gan gynnwys sawl un yn theatr byd-enwog y London Palladium. 

Gan ddefnyddio tafluniadau enfawr a lluniau ffilm gwreiddiol, mae'r sioe hon sydd wedi bod yn boblogaidd ledled y byd yn adrodd hanes Simon & Garfunkel o'r dyddiau cynnar i'w llwyddiant ysgubol, a hynny wedi'i gyfuno'n ddi-dor â band byw llawn sy'n perfformio'r holl ffefrynnau gan gynnwys 'Mrs Robinson', 'Cecilia', 'Bridge Over Troubled Water', 'Homeward Bound' a llawer mwy. 

Mae'r gynulleidfa wedi bod ar ei thraed ym mhob perfformiad o'r sioe mae Art Garfunkel ei hun yn ei charu, felly peidiwch â cholli'r cynhyrchiad rhyngwladol llwyddiannus hwn.

Tocynnau | £30

Video
21 Mehefin, 19:30
Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
19:30
Tocynnau: £30.00
Cwmni: Maple Tree Entertainment
Categori: Music
Archebwch Nawr